Webinar Rhithiol Sioe Frenhinol Cymru – Iechyd Meddwl: Sut wyt ti?

  • Posted

Ar y diwrnod yn Sioe Frenhinol Cymru lle byddwn i fwy na thebyg wedi mwynhau cyfranogi ym Mrecwast Proffesiynol blynyddol y cwmni am y tro cyntaf, fe wyliais un o sesiynau rhithiol y Sioe yn lle, sef “Iechyd Meddwl: Sut wyt ti?”

Roedd hi’n rhyfeddol clywed wrth Brif Weithredwr Tir Dewi, a ddywedodd, mewn arolwg, bod 51% o ffermwyr wedi datgelu eu bod wedi, neu o hyd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl mewn rhyw ffordd.

Y neges gyffredin a ddaeth i’r amlwg wrth bob un o’r cyfranogwyr oedd y pwysigrwydd o gysylltu â phobl eraill a siarad pethau trwyddo – gan osgoi cadw popeth i’ch hunan. Fel yr ydym ni gyd yn gwybod, mae rhai ohonom ni, a ddaw o gefndiroedd ffermio yn wael iawn am siarad am ein teimladau! Y neges glir fodd bynnag oedd ceisio gwthio eich hunan i wneud. Os nad ydych chi’n teimlo fel y gallwch chi siarad â’ch teulu neu ffrindiau, yna codwch y ffôn a siaradwch gyda sefydliad fel Tir Dewi a Sefydliad DPJ. Maent yn arbenigo mewn helpu pobl sy’n gweithio mewn amaeth i ddelio gyda’r pwysau ac emosiynau sy’n dod law yn llaw gyda gweithio yn y sector. Hefyd- i’r rhai hynny sy’n pryderi am iechyd meddwl cyd-weithiwr, ffrind teuluol neu anwylyd – ceisiwch eu helpu nhw i siarad am eu teimladau neu i gaffael cymorth, a byddwch yn barhaus ond gofalus wrth wneud hynny.

Yn benodol ddiddorol o safbwynt Agri Advisor oedd clywed Emma Picton-Jones o Sefydliad DPJ yn siarad am bryderon olyniaeth fel ffactor enfawr ar iechyd meddwl nifer o ffermwyr – pryderu am bwy fydd yn cymryd dros y fferm, sut bydd y fferm yn cael ei rannu allan, ac a fydd yr olynwyr yn gwneud gwaith da ohoni? Siaradodd am y pwysigrwydd o siarad am y pethau yma – cynllunio pethau’n iawn yn hytrach na’u gadael i gasglu – a’r manteision a gall ddod weithiau drwy gynnwys trydydd parti proffesiynol mewn fath drafodaethau.

Roedd yn agoriad llygad i weld y problemau cudd sy’n effeithio cymunedau gwledig heddiw.