Llongyfarchiadau i Hannah a Nicola ar basio arholiadau

  • Posted

Hoffwn ni yn Agri Advisor longyfarch Hannah a Nicola sydd wedi pasio eu harhioliadau GDL ac LPC yn eu tro, a hynny’n ddidrafferth!

Hannah Parry sy’n gweithio yn swyddfa’r Trallwng sydd wedi pasio ei Diploma Graddedig yn y Gyfraith o Brifysgol y Gyfraith, Birmingham.

Dywedodd Hannah, ‘Rydw i mor hapus fy mod wedi pasio’r Diploma Graddedig yn y Gyfraith. Mae’r gwaith caled wedi talu ffordd. Rwy’n edrych ymlaen at y cam nesaf o astudio’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol.’

Nicola Davies, sydd hefyd yn gweithio yn swyddfa’r Trallwng sydd wedi pasio’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol.

Dywedodd Nicola; ‘Mae’n gymaint o ryddhad i fod wedi cwblhau’r cwrs, er fy mod i’n mwynhau astudio, mae wedi bod yn dair blynedd prysur wrth gwblhau’r GDL a’r LPC, sy’n gam yn nes at gymhwyso fel cyfreithwraig. Mae gweithio i Agri Advisor yn wych ac rwy’n gwerthfawrogi eu cymorth ac anogaeth. Rwy’n edrych ymlaen at barhau gyda fy ngyrfa cyfreithiol gyda nhw.’ 

Dywedodd Nerys Llewelyn Jones, Partner Rheoli, ‘Rydym yn falch iawn o gampau Hannah a Nicola ac yn edrych ymlaen at eu cefnogi ar gam nesaf eu taith.’