Ydych chi’n barod am Brexit?

  • Posted

Mae’n siŵr ei fod yn teimlo fel petai wedi mynd ymlaen am byth ond o’r diwedd bydd Brexit yn dod i ben ar ddiwedd 2020. Mae sawl dechreuad ffug wedi bod ac yn anghredadwy, adeg ysgrifennu’r erthygl hon, mae yna ansicrwydd o hyd ynghylch p’un ai bydd yna gytundeb rhwng y DU a’r UE ai peidio. Islaw, byddwn yn nodi rhai o’r problemau a newidiadau technegol y gall ffermwyr orfod wynebu yng ngolau’r newidiadau.  Mae’n bwysig nodi hyd yn oed os bydd dêl yn cael ei wneud, bydd yna newidiadau sylweddol a biwrocratiaeth ychwanegol o ran masnachu gyda’r UE.

Bydd llawer o’r heriau technegol yn cwympo ar ysgwyddau’r rhai sy’n allforio nwyddau o’r DU yn uniongyrchol. Anaml iawn mai’r ffermwyr eu hunain yw’r rhain, ond mae yna gamau pwysig gall ffermwyr eu cymryd er mwyn paratoi eu busnes ar gyfer bywyd wedi gadael yr UE.

Cyngor cyffredinol yw ystyried amlygiad eich busnes i farchnad yr UE, gan gofio y byddwn tu allan i’r farchnad sengl. Gweler rhai materion i’w hystyried isod:

Gwerthu

Faint o’ch gwerthiannau sydd naill ai’n uniongyrchol i’r UE neu sy’n nwyddau sydd ag amlygiad sylweddol i’r UE? Beth ydych chi’n gwybod am y ffordd y mae eich prynwyr neu ladd-dai yn gwerthu eich da byw? Gallech feddwl am leihau eich amlygiad i gwsmeriaid sydd ag amlygiad sylweddol i’r materion a fydd yn codi gyda’r UE.

Mae rhai ffermwyr yn allforio (neu fewnforio) anifeiliaid byw i’r UE. Dylech wneud ymholiadau i unrhyw asiant neu glydwyr yr ydych yn defnyddio ar gyfer y gwaith hyn er mwyn asesu’r effaith y bydd newidiadau yn cael ac i ba raddau y mae camau wedi’u cymryd i fitigeiddio’r effeithiau.

Mae’n rhywfaint o ryddhad bod trefniadau dros dro wedi’u cytuno ar gyfer nwyddau sy’n pasio rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon. Ni fydd archfarchnadoedd a rhai masnachwyr dibynadwy yn gorfod darparu dogfennau ar gyfer nwyddau tan 1af o Ebrill 2021. Mae yna hefyd cyfnod o 6 mis lle gall nwyddau megis cig oer basio heb y cyfyngiadau masnachu arferol. Mae’r rhain yn fesurau dros dro y bydd rhaid i’r DU a’r UE ddatrys os dymunir cael datrysiad parhaol.

Mewnbynnau Fferm

Dylai ffermwyr feddwl am y pethau maent yn prynu ac o ble maent yn dod? Bwyd, gwrteithiau, meddyginiaethau, cemegau a pheiriannau – llawer ohonynt yn deillio o neu wedi’u dylanwadu gan faterion yn yr UE.

Bydd unrhyw oedi wrth dderbyn y mewnbynnau hyn yn effeithio ar ein busnes a gallwch chi wneud unrhyw drefniadau wrth gefn nawr? Siaradwch â’ch cyflenwyr er mwyn deall beth maen nhw’n disgwyl i ddigwydd o ran oedi a chynnydd mewn prisiau. Darganfyddwch ddewisiadau amgen ac aseswch eich opsiynau.

Strategaethau Rheoli Risg

Mae rhai strategaethau da yn bodoli a fydd yn ddefnyddiol unrhyw bryd ond maent yn benodol berthnasol ar gyfer y misoedd nesaf.

Gwiriwch i ble mae eich prynwr yn bwriadau gwerthu eich cynnyrch ymlaen. Os yw’n farchnad a all gael ei effeithio’n drwm gan drefniadau Brexit, yna ystyriwch p’un ai bod yna opsiwn arall oherwydd gall arwain at drafferthion neu oedi wrth dderbyn taliad.

Lle bo’n bosibl, gofynnwch am daliad wrth ddanfon eich nwyddau.

Gwasgarwch y risg drwy werthu i nifer o brynwyr gwahanol. Bydd hyn yn lleihau eich amlygiad i unrhyw fusnes penodol, os bydd yn wynebu trafferthion ariannol neu ansolfedd.

Os hoffech gyngor pellach neu gymorth mewn perthynas â Brexit neu unrhyw fater arall sy’n effeithio ar eich busnes, cysylltwch â ni ar 01558 650381.