Ad-daliad ffi Pŵer Atwrnai yn dod i ben ar 31ain o Ionawr 2021

  • Posted

Nôl yn 2018, cyhoeddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod pobl sydd wedi talu i drosglwyddo Atwrneiaeth Arhosol neu Atwrneiaeth Barhaus yng Nghymru neu Loegr rhwng y 1af o Ebrill 2013 a’r 31ain o Fawrth 2017 yn ddyledus am ad-daliad. Mae hyn oherwydd bod y ffi a oedd yn daladwy i gofrestru Atwrneiaeth rhwng y dyddiadau hynny yn £110, er bod costau gweithredu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi lleihau. Lleihaodd y ffi lawn i £82 yn Ebrill 2017 ac felly gall nifer o bobl fod yn gymwys am ad-daliad rhannol. Bydd llog hefyd yn cael ei ychwanegu ar raddfa o 0.5%.

Mai tri chwarter o’r ad-daliadau sy’n ddyledus heb eu hawlio hyd yma, mae hwn yn cyfateb i tua 1.3 miliwn o ad-daliadau dyledus, gyda dim ond dyddiau i fynd tan y dyddiad cau.

Bydd y cyfanswm gallwch chi adennill yn dibynnu ar bryd wnaethoch chi gofrestru eich Atwrneiaeth.

Gallwch wneud hawliad os mai chi yw’r:

  • ‘rhoddwr’ neu’r ‘donor’ – sef y person sydd wedi gwneud yr Atwrneiaeth
  • ‘twrnai’ – sydd wedi’i apwyntio gan y rhoddwr mewn Atwrneiaeth Arhosol neu Barhaus i wneud penderfyniadau ar ei rhan

Gellir hawlio ar-lein a dylai’r broses gymryd tua 10 munud. Bydd angen copi o’r Atwrneiaeth arnoch chi, yn ogystal â manylion banc y rhoddwr.

Os yw’r rhoddwr wedi marw, gallwch dal wneud hawliad ond bydd angen i chi wneud cais drwy e-bost i poarefunds@justice.gsi.gov.uk neu drwy’r post i POA Refunds Team, 7th Floor, Office of the Public Guardian, PO Box 16185, Birmingham, B2 2WH. Bydd angen i chi anfon copi o dystysgrif marw’r rhoddwr a’r ewyllys, neu grant cynrychiolaeth megis grant profiant neu lythyr gweinyddu, ynghyd â’ch manylion cyswllt.

Rhaid i’r ad-daliad gael ei dalu i’r rhoddwr neu’r ystâd.

Am fanylion llawn am sut i wneud hawliad gallwch ddilyn y linc isod:

https://www.gov.uk/powerofattorneyrefund#:~:text=You%20can%20get%20part%20of,refund%20by%201%20February%202021