Blwyddyn Newydd, Ewyllys Newydd?

  • Posted

Daw blwyddyn newydd â chyfle i ddechrau o’r newydd, rhywbeth mae nifer ohonom yn hiraethu am ers 2020 mae’n siŵr. Mae rhai’n creu addunedau blwyddyn newydd i fwyta’n iach, tra bod eraill yn dewis trefnu materion, er enghraifft thrwy greu Ewyllys.

Pam creu Ewyllys?

Mae creu Ewyllys yn hynod bwysig gan ei fod yn eich galluogi i gael rheolaeth lwyr dros pwy fydd yn etifeddu eich ystâd, arian a’ch meddiannau ar ôl i chi farw. Mae Ewyllys hefyd yn eich galluogi i drefnu materion a phenodi gwarcheidwaid ar gyfer eich plant sydd o dan 18, gan roi tawelwch meddwl bydd eich plant yn cael darpariaeth a gofal gan y bobl yr ydych yn ymddiried fwyaf ynddynt. Rydych hefyd yn penodi ysgutorion ac ymddiriedolwyr mewn Ewyllys – y bobl sy’n gweinyddu eich ystâd, rheoli unrhyw ymddiriedolaeth sydd wedi’u creu gan eich Ewyllys a chyflawni eich dymuniadau ar ôl i chi farw. Pe baech yn marw heb greu Ewyllys, bydd y ‘rheolau diewyllysedd’ yn dod i rym a fydd yn pennu dosbarthiad eich asedau, a all olygu bydd rhywun yn etifeddu eich ystâd a gofalu am eich plant yn groes i’ch dymuniad. Bydd y rheolau hefyd yn pennu pwy fydd yn gyfrifol am weinyddu eich ystâd, ac eto, o bosib nid dyma’r pobl orau i weithredu’ch dymuniadau.

 

Crêd llawer, os ydych briod, bydd eich ystâd yn trosglwyddo i’ch partner yn awtomatig, ac felly credant nad yw creu Ewyllys yn angenrheidiol. Fodd bynnag, nid dyma’r achos yn aml iawn, yn enwedig os oes plant gyda chi. Yn ogystal â hyn, os hoffech adael rhodd benodol adeg eich marwolaeth, er enghraifft rhoi trysor teuluol neu emwaith i unigolyn penodol neu rhodd i elusen, gwneud Ewyllys yw’r unig ffordd i sicrhau hyn.

 

Pam penodi Arbenigwr Cyfreithiol?

Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn ddiweddar mewn cwmnïoedd a sefydliadau sy’n cynnig gwasanaethau drafftio Ewyllys rhad am gyn lleied â £10, a all swnio’n atyniadol i ddechrau; fodd bynnag gall hwn arwain at ganlyniadau negyddol i chi yn y dyfodol, o ganlyniad i ddiffyg arbenigedd cyfreithiol. O bosib ni fydd gan ei Hewyllys nhw yr effaith yr oeddech wedi bwriadu ei gael, o ganlyniad i egwyddorion cyfreithiol sy’n anhysbys iddyn nhw. Yn ogystal â hyn, ceir rheolau llym o ran arwyddo Ewyllys, ac os nad yw’r Ewyllys wedi’i arwyddo’n ddilys, gall achosi nifer o drafferthion a gall hyd yn oed fod yn ddiwerth.

Mae Cyfreithwyr ac arbenigwyr cyfreithiol wedi’u hyfforddi’n arbenigol i ddrafftio a darparu cyngor ar Ewyllysiau fesul achos, gan alluogi’r cyngor i gael ei deilwra ar gyfer anghenion ac amgylchiadau’r cleient. Gallwn gynghori ar y ffordd orau i drefnu eich materion o safbwynt Treth Etifedd, gan leihau’r faich ar eich anwyliaid wedi’ch marwolaeth. Bydd ein tîm hefyd yn sicrhau bod eich Ewyllys yn gyfreithiol ddilys er mwyn gwneud yn siŵr bod eich dymuniadau yn cael eu gwireddu ar ôl eich dyddiau. Gall arbenigwyr cyfreithiol hefyd rhagweld problemau posib ac helpu osgoi unrhyw wrthdaro ac anghydfodau cyfreithiol rhwng eich anwyliaid wedi’ch marwolaeth, a all arwain at gostau cyfreithiol sylweddol, gan leihau’r arian sydd ar ôl yn eich ystâd yn sylweddol.

Beth nesaf?

Mae gennym ni nifer o arbenigwyr cyfreithiol yn Agri Advisor sydd â blynyddoedd o brofiad mewn darparu cyngor o ran Ewyllysiau. Gallwn gynghori ar ystod eang o amgylchiadau, o gynllunio Olyniaeth ac Ewyllysiau ar gyfer eich fferm neu fusnes, i ddarparu cyngor Ewyllys a Threth er mwyn delio â’ch eiddo neu feddiannau personol. Gallwn deilwra eich cyngor i’ch siwtio chi ac anelwn i’ch helpu i deimlo’n gartrefol yn ystod y sgyrsiau anghyfforddus hynny am bwy sy’n cael beth ar ôl eich dyddiau chi.

Os hoffech siarad ag arbenigwr am greu Ewyllys, yna cysylltwch ag aelod o’n Tîm Cleient Preifat ar 01558 650381 i ddechrau’r sgwrs.