GRANT CYNHYRCHU CYNALIADWY

  • Posted

CHWANT GWNEUD CAIS AR GYFER GRANT CYNHYRCHU CYNALIADWY?

Os oes diddordeb gyda chi mewn gwneud cais ar gyfer grant cynhyrchu cynaliadwy, mae disgwyl i’r ffenest nesaf agor ar y 1af o Chwefror 2021 a chau ar y 12fed o Fawrth 2021. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud Mynegiad o Ddiddordeb (MoDd) er mwyn gwneud cais am grant cyllid 40% tuag at eitemau cyfalaf sydd wedi’u hadnabod o flaen llaw a pheiriannau sy’n rhoi cymorth i ffermwyr fynd i’r afael â gwella ansawdd dŵr a rheolaeth maetholion.  Bydd y ceisiadau hynny yna’n cael eu hasesu gan Lywodraeth Cymru a bydd MoDd llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyflwyno cais llawn.

 

Isafswm y grant cyllid sydd ar gael yw £12,000 a’r mwyafswm yw £50,000. Ar gyllid o 40%, gall cyfanswm cost prosiect for rhwng £30,000 i £125,000. Bydd angen i ymgeisiwyr fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio ac o bosib bydd angen i bartner yn y busnes fynychu rhyw fath o ddigwyddiad rhithiol, yn hytrach na’r “Sioe Busnes Fferm Deithiol” arferol.

 

Gyda chyflwyno’r Parthau Perygl Nitradau Cymru Gyfan o fis Ebrill 2021, does dim adeg pwysicach wedi bod erioed i ymgeisio am gyllid tuag at wella cyfleusterau slyri, a storfeydd silwair. Bydd angen i sotrfeydd slyri yn enwedig ddangos cynhwysedd storio o 5 mis oleiaf er mwyn mynd i’r afael â’r cyfnodau cau newydd dros y gaeaf. Cysylltwch â Katie Davies ar 07495 006849 neu Ellie Watkins  ar 07495 006808 am gyngor pellach.

 

 

ANGEN HELP GYDA’CH CAIS AR GYFER GRANT CYNHYRCHU CYNALIADWY? 

Os ydych wedi bod mor ffodus i gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb (MoDd) ffafriol ar gyfer y grant cynhyrchu cynaliadwy yn rowndiau 4 neu 5, yna rydych wedi’ch gwahodd i gyflwyno cais lawn i gael ei ystyried am gytundeb. O bosib rydych wedi’ch drysu gyda’r holl waith papur  sydd angen cyflwyno ar gyfer y cais llawn. Mae Agri Advisor yn fwy na’ hapus i’ch helpu ac yn barod i gynnig pris cystadleuol am gymorth gyda chyflwyno cais lawn.

Yn dilyn cyflwyno MoDd lwyddiannus, mae ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyflwyno cais sy’n cynnwys y wybodaeth ganlynol i’w werthuso gan Lywodraeth Cymru:

  • Cynllun Busnes 5 Mlynedd
  • Datganiad Meini Prawf Craidd
  • Cynlluniau Effeithiolrwydd Maetholion a Dŵr
  • 3 Blynedd o Gyfrifion Ardystiedig
  • Caniatâd Cynllunio (os yn berthnasol)
  • 3 Dyfynbris am bob eitem buddsoddiad sydd wedi’u cynnwys yn y MoDd

Bydd Llywodraeth Cymru yna’n adolygu’r holl wybodaeth hyn er mwyn ceisio penderfynu pa ymgeiswyr bydd yn cael cynnig y cytundeb. Er mwyn i’ch cais gael ei ystyried mewn modd ffafriol, mae’n hanfodol eich bod chi’n darparu portffolio clir a chynhwysfawr sy’n gosod allan yr holl wybodaeth angenrheidiol. Bydd methu â chynhyrchu darnau o’r wybodaeth neu chyflwyno cais aneglur yn rhwystro eich siawns o gael cynnig cytundeb. Mae gennym ni brofiad mewn cyflwyno ceisiadau a sicrhau cyllid grant yn llwyddiannus ac felly rydym ni’n fwy na’ hapus i drafod eich anghenion gan gynnwys cyngor cynllunio os oes angen. Cysylltwch â Katie Davies ar 07495 006849 neu Ellie Watkins ar 07495 006808 am gyngor pellach.