Grantiau Bach Glastir – Carbon

  • Posted

Mae nifer o Grantiau Bach Glastir ar agor ar adegau gwahanol trwy gydol 2021 sy’n canolbwyntio ar amryw o themâu amgylcheddol buddiol.  Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer unrhyw un o’r grantiau hyn rhaid i chi gael CRN, tir amaethyddol a rhaid i’r ymgeisydd gael cyfrifoldeb rheoli llawn a rheolaeth dros y tir hyd at ddiwedd y cytundeb er mwyn eich galluogi i gyflawni rhwymedigaethau’r cynllun. Er mwyn gwneud cais, rhaid i chi gyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb trwy RPW ar-lein cyn cael eich dewis yn dilyn proses asesu. Fodd bynnag, os nad yw 80% o werth pob Prosiect Gwaith Cyfalaf ar draws y thema gyfan wedi’u cwblhau, yna bydd yr ymgeisydd wedi’i eithrio rhag gwneud cais ar gyfer unrhyw thema Grantiau Bach Glastir am ddwy flynedd.

Mae Grantiau Bach Glastir Carbon ar agor ar hyn o bryd tan y 19eg o Chwefror. Mae’n rhaglen o waith cyfalaf sydd ar gael i fusnesau ffermio ar draws Cymru er mwyn cwblhau prosiectau a fydd yn helpu i gloi Carbon i fyny. Caiff eitemau Gwaith Cyfalaf eu hadnabod fel ‘Prif’ Waith a Gwaith ‘Cefnogol’ a fydd, gyda’u gilydd, yn ffurfio ‘Prosiect’. Y Prosiect bydd y prif waith cyfalaf a fydd yn mynd i’r afael â’r amcanion thema ac yna’r gwaith cyfalaf cefnogol bydd yn galluogi’r prif waith cyfalaf i gael ei wneud.

Mae’r thema Carbon yn cynnig gwaith cyfalaf sydd wedi’u dewis oherwydd eu buddion amgylcheddol gyffredinol eang yn ogystal â’u gallu i gyflawni’r uchelgais Llywodraeth Cymru i gynyddu Atafaelu Carbon. Ystyr Atafaelu Carbon yw storio Carbon Deuocsid yn hirdymor. Mae wedi’i gynnig fel dull newydd i arafu cronni atmosfferig nwyon tŷ gwydr. Mae’r holl weithgareddau sydd ar gael wedi’u dewis oherwydd eu gallu i gyfrannu tuag at yr Atafaelu Carbon cynyddol ac mae pob darn o dir cymwys yng Nghymru wedi derbyn sgôr ar gyfer pob gweithgaredd sydd ar gael. Mae’r sgôr yma wedi’i ffurfio o Sgôr Sylfaen Grantiau Bach Glastir a’r Nodau Targed. Mae gan pob darn o dir nifer gwahanol o bwyntiau sy’n ddibynnol ar weithgaredd penodol a’r cyfuniad o nodau targed y mae’n gorgyffwrdd. Bydd rhai darnau o dir yn cael eu dynodi gydag N/A naill ai oherwydd nad yw’r darn o dir hynny’n gymwys, neu oherwydd nad yw gweithgaredd penodol yn gymwys os gallent niweidio elfen amgylcheddol.

Pan fydd y dewis wedi’i gwblhau, bydd llythyron canlyniad yn cael eu cyhoeddi ar eich cyfrif ar-lein RPW yn dynodi os ydy’ch EOI wedi’i ‘ddewis’ neu ‘heb ei ddewis’. Unwaith iddynt gael eu dilysu, bydd cytundebau yn cael eu cynhyrchu a fydd yn caniatáu 21 diwrnod i naill ai dderbyn neu wrthod y prosiect trwy RPW ar-lein. Gall y gwaith gychwyn unwaith bydd y cytundeb yn cael ei dderbyn. Y  dyddiad cau ar gyfer hawliadau a ffotograffau sydd wedi’u geo-tagio yw’r 31ain o Fawrth 2022.

Os hoffech gymorth gyda’ch cais, cysylltwch â Katie Davies neu Ellie Watkins ar 01558 650 381 neu katie@agriadvisor.co.uk neu ellie@agriadvisor.co.uk.