Rydyn ni’n Recriwtio!

  • Posted

Mae Agri Advisor Legal LLP yn gwmni gwledig arbenigol o gyfreithwyr a chynghorwyr.  Cyniga Agri Advisor ystod eang o wasanaethau cyfreithiol a chynghorol sy’n ymroi i ddarparu cyngor arbenigol i ffermwyr, tirfeddianwyr a phobl wledig. Fel Cyfreithwyr Amaethyddol arbenigol, rydym ni’n cynnig cyngor penodol i ffermwyr a thirfeddianwyr sy’n uniongyrchol berthnasol i’r problemau a wyneba eu busnesau.

Sefydlwyd Agri Advisor deng mlynedd yn ôl ac mae gennym ni gleientiaid ar draws Cymru a Lloegr, gyda’n prif swyddfa ym Mhumsaint, Sir Gaerfyrddin a’r swyddfeydd eraill wedi’u lleoli yn y Trallwng; Groesfaen, Caerdydd; Eardisley, Swydd Henffordd; a Chastellnewydd Emlyn. Mae ein cleientiaid yn amrywiol a gwahanol iawn sy’n adlewyrchu’r raddfa eang o wasanaethau rydym ni’n cynnig i bobl wledig.

 

Rydym ni’n chwilio i recriwtio Cyfreithiwr gyda phrofiad ôl-gymhwysol o dair blynedd (3+ PQE ) (neu’n gyfatebol) sy’n arbenigo mewn gwaith Cleient Preifat.

 

Croesawir ceisiadau Rhan-amser neu Lawn-amser.

Bydd y mwyafrif o’r gwaith yn cynnwys:

  • Paratoi Ewyllysiau ac Ymddiriedolaethau
  • Gweinyddu Ystadau ac Ymddiriedolaethau
  • Atwrneiaeth
  • Cynllunio Olyniaeth gan gynnwys cyngor ar drethi cyfalaf

Mae’r rôl yn mynnu sylw at fanylion a’r gallu i adeiladu cydberthynas gref gyda chleientiaid. Bydd angen i’r ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus ddangos y canlynol:

–          Profi gwybodaeth dechnegol

–          Sgiliau gofal cleient gwych

–          Ymwybyddiaeth a ffocws masnachol

–          Sgiliau dadansoddi a rheolaeth prosiect cryf

–          Gallu i reoli llwyth gwaith a chyrraedd targedau tynn

–          Awch i ddysgu a datblygu sgiliau cyfreithiol a busnes

 

Mae cefndir mewn amaethyddiaeth yn ddymunol, ond nid yw’n angenrheidiol. Gall yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus gael ei/eu lleoli yn unrhyw un o’n 5 swyddfa uchod. Mae gennym ni bolisi gweithio hyblyg ac rydym ni’n gweithio o adref lle fo’n bosib, gan ddefnyddio ein swyddfeydd fel Hybiau. Cyflog – cystadleuol; gydag ystyriaeth yn cael ei roi yn ddibynnol ar brofiad.

Dylid anfon ceisiadau ar ffurf CV gyda llythyr eglurhaol wedi’i ddynodi’n ‘Gyfrinachol’ gael eu hanfon at sylw Kay Lewis, Rheolwr Datblygiad & AD, Llys y Llan, Pumsaint, Llanwrda, Sir Gaerfyrddin, SA19 8AX neu thros e-bost i kay@agriadvisor.co.uk.  Fel arall, os hoffech drafodaeth anffurfiol, gyfrinachol ar gyfleoedd posib, ffoniwch Kay Lewis ar 07961 683 625.