Rydyn ni’n Recriwtio!

  • Posted

Mae Agri Advisor Legal LLP yn gwmni gwledig arbenigol o gyfreithwyr a chynghorwyr.  Cyniga Agri Advisor ystod eang o wasanaethau cyfreithiol a chynghorol sy’n ymroi i ddarparu cyngor arbenigol i ffermwyr, tirfeddianwyr a phobl wledig. Fel Cyfreithwyr Amaethyddol arbenigol, rydym ni’n cynnig cyngor penodol i ffermwyr a thirfeddianwyr sy’n uniongyrchol berthnasol i’r problemau a wyneba eu busnesau.

Sefydlwyd Agri Advisor yn 2011 gan Dr Nerys Llewelyn Jones ar ei fferm adref ym Mhumsaint. Mae gennym ni gleientiaid ar draws Cymru a Lloegr gyda’n prif swyddfa ym Mhumsaint, Sir Gaerfyrddin a’r swyddfeydd eraill wedi’u lleoli yn y Trallwng; Groesfaen, Caerdydd; Eardisley, Swydd Henffordd; a Chastellnewydd Emlyn. Mae ein cleientiaid yn amrywiol a gwahanol iawn sy’n adlewyrchu’r raddfa eang o wasanaethau rydym ni’n cynnig i bobl wledig.

Crynodeb Swydd: Prentis Cynorthwyydd Swyddfa – Llawn-amser (Dydd Llun i Ddydd Gwener 9 – 5)

Lleoliad Swyddfa:  Castellnewydd Emlyn/Pumsaint

Dyletswyddau yn cynnwys:

Croesawu ymwelwyr i’r swyddfa

Teipio nodiadau a dyfarniadau digidol

Cynhyrchu llythyron a dogfennau cyfreithiol

Delio gydag ymholiadau wrth gleientiaid dros e-bost, ffacs neu lythyr

Ateb galwadau ffôn

Rheoli’r dyddiadur ac apwyntiadau

Copïo, sganio a ffacsio

Paratoi ffeiliau llys

Ffeilio a gwaith gweinyddol cyffredinol gan gynnwys delio gyda phost mewn ac allan o’r swyddfa; agor, rheoli a chau ffeiliau cleientiaid.

Delio gyda thaliadau wrth gleientiaid

 

Rhinweddau Allweddol:

Chwaraewr tîm

Sgiliau cyfathrebu arbennig

Profiadol gyda ‘Microsoft Office’

Sgiliau bysellfwrdd arbennig

Gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith ac amldasgio

Cyfrinachgar

Proffesiynol

Rhugl gyda gramadeg a sillafu da

 

Gan fod nifer o’n cleientiaid yn siarad Cymraeg, mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol, ond nid yw’n angenrheidiol.

Yn ogystal i’ch dyletswyddau allweddol o bosib bydd angen i chi ymgymryd â dyletswyddau ychwanegol a gwahanol a fydd o bryd i’w gilydd yn cael eu hystyried yn angenrheidiol a chyson gyda’ch rôl o fewn y cwmni.

Byddai cefndir mewn amaethyddiaeth yn well ond nid yw’n angenrheidiol. Cyflog – isafswm cyflog; gydag ystyriaeth yn ddibynnol ar brofiad.

Dylai ceisiadau sy’n cynnwys CV a llythyr eglurhaol sydd wedi’i ddynodi’n ‘Gyfrinachol’ gael eu hanfon at sylw Kay Lewis, Rheolwr Datblygiad & AD, Llys y Llan, Pumsaint, Llanwrda, Sir Gaerfyrddin, SA19 8AX neu drwy e-bost i kay@agriadvisor.co.uk erbyn Dydd Gwener 12fed o Chwefror 2021.  Bydd Cyfweliadau Rhithiol yn cael eu cynnal ar Ddydd Mawrth 16eg o Chwefror 2021.