Beth yw Tresmasu?

  • Posted

Tresmasu tir yw pan fo’ rhywun yn mynd ar dir rhywun arall, heb ganiatâd. Mae enghreifftiau o Tresmasu yn cynnwys cerdded ar neu ar draws tir rhywun arall heb ganiatâd, gosod gwrthrychau ar dir rhywun arall heb ganiatâd, er enghraifft tipio anghyfreithlon, neu meddiannu tir rhywun arall heb ganiatâd, er enghraifft sgwatio.

Nid yw Tresmasu yn drosedd ond, mewn termau cyfreithiol, mae’n cael ei ystyried yn gamwedd felly gallai gael ei dreialu yn y llysoedd sifil. Os bydd Tresmasu’n cael ei brofi, yna ceir nifer o rwymedïau posib, gan gynnwys gwaharddeb (i atal unrhyw Dresmasu pellach yn y dyfodol), iawndal (pan fydd yna ddifrod i’r tir), neu hawliad i adennill meddiant o’ch tir (pan fo rhywun wedi bod yn meddianu’r tir, heb ganiatâd).

Gall Tresmasu fodd bynnag droi’n drosedd droseddol yn ogystal, os fydd unrhyw barti yn achosi difrod troseddol, bygwth defnyddio trais, neu’n defynddio trais. Mae felly’n bwysig iawn pwyllo os ydych yn dod wyneb yn wyneb gyda Thresmaswyr posib, gan stopio a meddwl yn bwyllog am ba ffordd sydd orau i ddelio gyda’r sefyllfa cyn gwneud unrhywbeth.

Beth ddylwn i wneud os oes rhywun yn Tresmasu ar fy nhir?

Yn bwyllog, ac mewn modd di-wrthdaro, dylwch ofyn i’r Tresmasydd i adael a cheisiwch esbonio pam yr ydych chi’n credu bod y Tresmasydd yn Tresmasu ar eich tir. Bydd hwn yn helpu nhw i ddeall y rhesymau pam eich bod chi’n gofyn iddynt gadw i ffwrdd o’ch tir.  Os oes gan y Tresmasydd gerbyd, gwnewch nodyn o wneuthuriad a model y cerbyd, yn ogystal â’r plât rhif cofrestredig. Dylech hefyd wneud nodyn o ddyddiad ac amser y digwyddiad, yn ogystal ag unrhyw ddigwyddiadau pellach os yw’r Tresmasu’n parhau.  Os yw’r Tresmasu’n parhau ar ôl i chi ofyn iddyn nhw stopio, dylech gaffael cyngor cyfreithiol.

Mae’n bwysig iawn nad ydych chi’n cymryd materion i’ch dwylo eich hun a cheisio delio gyda’r Tresmaswyr eich hunain oherwydd gall arwain at erlyniad troseddol yn eich herbyn.

Os oes gyda chi unrhyw bryderon ynghylch Tresmasu a hoffech siarad ag un o’n Cyfreithwyr yn ei gylch, yna ffoniwch ni ar 01558 650381 a bydd aelod o’n staff yn hapus i’ch helpu gyda’ch ymholiad.