Anghydfodau Partneriaeth Ffermio

  • Posted

Mae anghydfodau ynghylch partneriaethau ffermio yn arbennig o anodd i’r holl sydd ynghlwm, a’n aml yn codi wedi marwolaeth un partner gan ychwanegu at y tor-calon a’r brofedigaeth. Tra bod gan Agri Advisor brofiad sylweddol o ddelio gyda’r fath anghydfodau, rwyf i a fy nghydweithwyr yn cymeradwyo cynllunio olyniaeth cyn i faterion droi’n anodd. Yr opsiwn gorau bob tro byddai osgoi anghydfodau partneriaeth yn hytrach na gorfod datrys materion.

O’m mhrofiad i, mae llawer o’r anghydfodau hyn yn codi o ganlyniad i fethiannau o fewn y bartneriaeth ac, o bosib, y teulu ehangach i drafod dyfodol ariannol y fferm. Yn fy marn i, mae’r cynnydd diymwad yn yr anghydfodau hyn wedi’i briodoli i werth cynyddol tir. Yn aml yn cynnwys fwy nag un genhedlaeth mewn teulu, mae’r stanc emosiynol ac ariannol felly’n aml yn uchel ac mae cyfreithwyr yn wynebu amgylchiadau anodd ac emosiynol wrth iddynt geisio datrys materion.  Er gwaethaf yr holl ymdrechion, y gwirionedd i lawer yw na ellir dod o hyd i ddatrysiad i’r problemau partneriaeth ac, i wneud materion yn waeth, yn nhermau ymarferol gall y busnes gael ei effeithio’n niweidiol gan na all y partneriaid gytuno ar faterion gweithredol.

Sut gellir datrys y materion hyn? Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, yr unig ddatrysiad ymarferol gallai fod i ddod â’r bartneriaeth i ben. Os yw’r tir sy’n cael ei ffermio gan y bartneriaeth o erw ddigonol gydag isadeiledd addas i gynnwys tai ar wahân ac adeiladau, gallai fod yn bosib eu gwahanu i greu dau fusnes ffermio ar wahân. Fodd bynnag, nid yw hyn bob tro’n bosib a gall fod angen i’r partïon ystyried cyfryngu ac yn y pen draw, ymgyfreitha.

Bydd cyfryngu (‘mediate’) yn ystyried pob agwedd o anghydfod partneriaeth ffermio a’n galw am baratoi gofalus ymlaen llaw. Dylai ymdrechion ffocysu ar gynorthwyo’r cyfryngwr drwy fanylu pob cynnig a gwrthgynnig, cytuno ar restr o faterion a chynnig datrysiadau posib i’r cyfryngwr ar sail gyfrinachol. Nid yw cyfryngu bob tro’n drwsiad cyflym a gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, gall gynnwys trafodaethau hir a chaled.   Os na chyrhaeddir cytundeb mewn cyfryngiad, yna bydd ymgyfreitha yn anochel.

Ymgyfreitha dylai fod y dewis olaf oherwydd bydd heb os yn denu costau sylweddol a all fod yn anodd i ariannu. O brofiad, wrth i’r potensial am ymgyfreitha agosáu ac wrth i’r partïon gydnabod y risg a’r costau sydd ynghlwm â cholli mewn achos llys, mae yna dueddiad iddynt newid safbwynt i geisio osgoi risg, a gall y potensial o ddod â’r bartneriaeth i ben a chytuno ar setliad ddod yn fwy deniadol.

Os nad yw consensws yn bosib, yna’r unig opsiwn yw achos llys llawn. Bydd y partneriaid heb os yn wynebu costau sylweddol yn y sefyllfa hon ac mae achosion diweddar wedi gweld sefyllfaoedd lle mae pob un yn cael eu gadael heb eu bodloni ac allan o boced, gyda rhai ffermydd yn gorfod cael eu gwerthu i setlo costau a dyledion.

Tra bod yna lwybrau cyfreithiol y gellir eu hystyried a gall ddod yn angenrheidiol i ddatrys anghydfod partneriaeth, mae’r hen ddywediad bod “atal yn well nag iachâd” yn fy meddwl fel yr opsiwn gorau i’r holl sydd ynghlwm.

Karen Anthony