Lansio teclyn newydd Treth Etifeddiant ar-lein

  • Posted

Fis diwethaf, lansiodd HMRC teclyn newydd ar-lein i helpu unigolion neu ysgutorion ystâd gyfrifo amcan werth ystâd a p’un ai bod Treth Etifeddiant yn debygol o fod yn daladwy arno neu beidio. Mae’r teclyn ar-lein yn anelu i helpu ysgutorion gyfrifo os oes treth yn daladwy ac os felly, yn darparu dolenni i gymorth amrywiol i helpu gyda’r camau nesaf. Mae HMRC wedi’i gwneud hi’n glir mai bwriad y teclyn yw darparu canllaw yn unig ac nid yw’n gyfrifiannell Treth Etifeddiant. Bydd angen i ddefnyddwyr wybod amcan werth yr asedau yn yr ystâd cyn iddynt fedru defnyddio’r teclyn.

Gellir dod o hyd i’r teclyn trwy ddilyn y ddolen ganlynol:

Beth oedd gwerth pob eiddo a berchnogwyd yn y DU mewn punnoedd? – Arweiniad Rhyngweithiol – GOV.UK (tax.service.gov.uk)

Fodd bynnag, tra bod hwn yn declyn defnyddiol, mae yna lawer o bethau nad yw’r ddolen yn gwneud. Nid yw Treth Etifeddiant yn dreth syml, gan fod nifer o ryddhadau ac eithriadau a all fod yn berthnasol, rhai na fyddai’r teclyn Treth Etifeddiant yn ystyried. Nid yw’r teclyn yn cynghori faint o dreth sy’n daladwy, ond yn syml p’un ai bod treth yn debygol o fod yn daladwy neu beidio. Nid yw’n cymryd unrhyw ryddhadau perthnasol mewn i ystyriaeth, megis rhyddhad eiddo amaethyddol a rhyddhad eiddo busnes, a’n bendant felly i’r rhai hynny sy’n berchen tir amaethyddol neu asedau busnes a fyddai’n debygol o fod yn gymwys am ryddhad yn erbyn Treth Etifeddiant, ni fyddai’r teclyn yn arbennig o ddefnyddiol.

Mae’n bwysig felly bod unigolion yn caffael cyngor arbenigol ynghylch eu safle Treth Etifeddiant fel y gellir rhoi mesurau mewn lle yn gynnar er mwyn ceisio mitigeiddio lleihau unrhyw dreth posib sy’n daladwy. Mae’r teclyn ar-lein yn darparu man cychwyn da, ond nid yw’n cymharu gyda thrafod yr ystâd gyda chynghorydd arbenigol a all gynghori ynghylch cymhwyso’r rhyddhadau ac eithriadau perthnasol, ynghyd ag opsiynau o ran sut i leihau unrhyw dreth sy’n daladwy ar yr ystâd.

Mae hwn yn arbennig o bwysig o ganlyniad i’r newidiadau posib a all ddod i’r amlwg yn ystod Cyllideb yr Hydref. Dwi eisoes wedi ysgrifennu am y bygythiad o newidiadau i’r drefn Treth Etifeddiant, ac eto, gan ystyried sefyllfa’r economi o ganlyniad i Covid-19, mae yna ddyfalu cryf o fewn y diwydiant bod newidiadau wrth droed.  Mae’r canghellor, Rishi Sunak, wedi cadarnhau bod trothwyon Treth Etifeddiant wedi’u rhewi tan 2026, ac felly gwyddwn bydd y Band Cyfradd Dim a’r ganran sy’n daladwy (40%) yn aros yr un peth am y 5 mlynedd nesaf o leiaf. Ni fyddwn ni’n gwybod pa newidiadau, os o gwbl, bydd yn dod i rym tan Gyllideb yr Hydref, ac felly mae’r cyfnod nesaf yn gam critigol i’r rhai hynny sydd eisiau trafod eu cynlluniau olyniaeth o dan y drefn bresennol, tra bod ni’n gwybod yn union beth rydym ni’n delio ag o ran trethi sy’n daladwy a sicrhau bod y lwfansau ac eithriadau amrywiol yn cael eu defnyddio. Mae yna sibrydion yn barod o ran gorfod gohirio Cyllideb yr Hydref eleni, felly mae hwn yn rhoi amser i ni ystyried y sefyllfa a gwneud y mwyaf ohono.

Os hoffech chi drafod eich cynllun olyniaeth a Threth Etifeddiant, cysylltwch â Manon Williams ar 01239 710942.