Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig CAFC – Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr.

  • Posted

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Nicola Davies, o’n swyddfa yn y Trallwng, wedi’i dewis i fod yn rhan o Raglen Arweinyddiaeth Wledig Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gyfer 2022-2023.

Mae Nicola yn un o 14 o ymgeiswyr llwyddiannus o bob rhan o Gymru a fydd yn cymryd rhan yn y Rhaglen Arweinyddiaeth sy’n anelu at ddarparu rhaglen lawn o hyfforddiant, mentora, cefnogaeth ac arweiniad dros dair sesiwn breswyl ddwys.

Dechreuodd y cyfle i rwydweithio ag unigolion proffil uchel o fewn y diwydiant gyda diwrnod dethol / blasu i ymgeiswyr ym mis Mai 2022. Mae’r rhaglen wedi’i hanelu at ysbrydoli arweinwyr y dyfodol mewn amaethyddiaeth ac mae’n gyfle i ddatblygu sgiliau arwain ar adeg mor bwysig i’n sector.