Parc Cenedlaethol Newydd – Sut fydd yn effeithio ar ffermwyr tenant?

  • Posted

Gyda’r ymgynghoriad cyhoeddus a barhaodd 10 wythnos bellach wedi dod i ben, mae tynged 4ydd Parc Cenedlaethol Cymru yn nwylo Llywodraeth Cymru. Mae’r ardal arfaethedig yn ymestyn o arfordir Prestatyn yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, i lawr i rannau Gogleddol Powys. Fel rhywun sy’n byw fel tenant ar fferm laeth yn yr ardal arfaethedig, roeddwn yn awyddus i ddysgu mwy am sut y gallai hyn effeithio arnaf i a ffermwyr tenant eraill sy’n byw yn yr ardal arfaethedig.

Fel cyfreithiwr, penderfynais ddechrau gyda’r ddeddfwriaeth; yn ôl y Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, pwrpas cyfreithiol Parc Cenedlaethol yw:

  • Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parc Cenedlaethol; ac i
  • Hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad o’i rinweddau arbennig gan y cyhoedd.

Fel rhywun sy’n falch iawn o fod wedi cael ei geni a’i magu mewn ardal sydd â threftadaeth ddiwylliannol mor gryf ac fel rhywun sy’n gwybod o brofiad pa mor hardd yw’r ardal, mae’n ymddangos yn syniad da rhoi mesurau ar waith i ddiogelu hynny. Fodd bynnag, mae’r byd rydym yn byw ynddo heddiw yn wahanol iawn i fyd 1949. A yw’n realistig cyflawni’r nodau hyn, gan ystyried yr heriau rydym bellach yn eu hwynebu fel newid hinsawdd, prinder tai, poblogaeth sy’n cynyddu a’r argyfwng costau byw?

Mae’r rhai sydd o blaid y Parc Cenedlaethol newydd yn credu y byddai’n helpu i ddiogelu a gwarchod yr ardal ddynodedig rhag gor-ddatblygu, yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar yr economi leol. Byddai Parc Cenedlaethol newydd yn dod â mwy o bobl i’r ardal i gefnogi’r sectorau lletygarwch a thwristiaeth, a fyddai’n fuddiol i ffermwyr sydd wedi arallgyfeirio i mewn i lety gwyliau a siopau fferm ac ati.

Mae’r rhai sy’n gwrthwynebu’r Parc Cenedlaethol newydd wedi codi pryderon am yr effaith ar deuluoedd sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal arfaethedig. Gall cyflwyno Parc Cenedlaethol annog twristiaid i brynu ail gartrefi yn yr ardal, gan ei gwneud hi’n anoddach i deuluoedd ifanc a phobl leol brynu eiddo. I ffermwyr yn arbennig, gallai arwain at gyfyngiadau pellach ar sut y caniateir iddynt ffermio’r tir o fewn yr ardal arfaethedig. Bydd hefyd yn debygol o gael effaith ar y gallu i gael caniatâd cynllunio, gan ei gwneud yn anoddach i ffermwyr a busnesau ehangu a chynyddu. Gallai hyn, yn ei dro, arwain at ymadawiad o bobl ifanc o’n cymunedau lleol i chwilio am waith mewn mannau eraill. Mae nifer hefyd wedi codi pryderon am y cynnydd mewn traffig a’r straen ariannol ychwanegol y byddai statws Parc Cenedlaethol yn ei gael ar awdurdodau lleol.

Mae hwn yn sicr yn bwnc sydd wedi rhannu barn. Os bydd y cynlluniau ar gyfer y Parc Cenedlaethol newydd yn cael eu gweithredu, fy nghyngor i ffermwyr fyddai sicrhau eich bod yn nodi unrhyw hawliau tramwy cyhoeddus ar eich tir a sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’ch rhwymedigaethau mewn perthynas â’r hawliau tramwy cyhoeddus hynny, fel y tirfeddiannwr. Gellir cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn os na fyddwch yn cydymffurfio â’ch cyfrifoldebau.

Wedi ysgrifennu gan Hannah Parry, Gyfreithwraig, wedi lleoli yn ein swyddfa yn y Trallwng.

Erthygl wreiddiol wedi’i chyhoeddi yng nghylchlythyr TFA Cymru i’w haelodau. www.tfa.org.uk.