Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau – Frankie Jones

  • Posted

Mae’r wythnos hon yn Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (10fed – 14eg o Chwefror) a hoffem daflu golwg ar y prentisiaid sydd gennym yn gweithio gyda ni yn Agri Advisor. Mae ein prentisiaid yn gweithio tuag at gwblhau amrywiol gymwysterau tra hefyd yn gweithio yn ein Cwmni.

Nesaf mae Frankie Jones, sy’n gweithio tuag at Brentisiaeth Cyfreithwyr Lefel 7.

‘Dechreuais y Brentisiaeth Cyfreithiwr ym mis Medi 2023, ar ôl gweithio fel Cynorthwy-ydd Gweinyddol gydag Agri Advisor am y flwyddyn flaenorol. Fe wnes i fwynhau gweithio yn y cwmni yn fawr iawn ac felly roedd yn gwneud synnwyr i mi barhau i weithio ochr yn ochr ag astudio.

Mae bod yn brentis yn llwybr cyflym a chyffrous tuag at y cymhwyster ac mae wedi rhoi’r cyfle i mi gwrdd ag eraill yn y proffesiwn cyfreithiol, yn ogystal ag ennill profiad ymarferol. Mae’r brentisiaeth yn fy ngalluogi i gysylltu fy astudiaethau ag achosion go iawn a gweld sut mae’r gyfraith yn gweithio’n ymarferol.

Mae hefyd yn golygu fy mod yn cael gweithio’n agos gyda chyfreithwyr profiadol sydd bob amser yn barod i gynnig cefnogaeth ac arweiniad. Pan fyddaf yn cymhwyso fel cyfreithiwr, bydd gennyf eisoes dros 6 blynedd o brofiad yn gweithio ym maes y gyfraith, ac yn enwedig y maes arbenigol o gyfraith amaethyddol.

Am y rheswm hwnnw, rwy’n credu bod y rhaglen brentisiaeth yn ffordd amrhisiadwy o ddilyn gyrfa yn y gyfraith ac yn un na ellir cystadlu â hi gan y llwybr traddodiadol.’

Mae Wythnos Prentisiaethau yn tynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei wneud ar draws y gymuned brentisiaethau cyfan i hyrwyddo prentisiaethau a’r effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ledled Cymru.

Os oes gennych ddiddordeb yn ein rhaglen Brentisiaethau ac yr hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni.