Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau – Kelsie Flavell
Mae’r wythnos hon yn Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (10fed – 14eg o Chwefror) a hoffem daflu golwg ar y prentisiaid sydd gennym yn gweithio gyda ni yn Agri Advisor. Mae ein prentisiaid yn gweithio tuag at gwblhau amrywiol gymwysterau tra hefyd yn gweithio yn ein Cwmni.
Yn gyntaf yw Kelsie Flavell sy’n gweithio tuag at gwblhau Prentisiaeth Paragyfreithiol CILEX Lefel 3.
‘Ers dechrau fy mhrentisiaeth ym mis Hydref 2024, rwyf wedi canfod bod gweithio yn yr amgylchedd cyfreithiol wrth astudio i fod yn Baragyfreithiwr wedi bod yn gyfle gwych.
Dwi wedi gallu ennill profiad ymarferol yn y proffesiwn cyfreithiol gyda’r fantais o weithio ochr yn ochr â chyfreithwyr profiadol sy’n fwy na pharod i’m cynorthwyo pan fo angen, a dwi’.n gwerthfawrogi hwn yn fawr iawn. Dwi wedi cael cyfle i ddrafftio dogfennau, cynnal ymchwil gyfreithiol a mynychu cyfarfodydd gyda chyfreithwyr, sydd wedi fy helpu i ddeall gweithdrefnau cyfreithiol yn well ac wedi cynyddu fy hyder wrth i mi ddatblygu fy ngwybodaeth a’m sgiliau cyfreithiol.
Mae gweithio yn yr amgylchedd cyfreithiol wrth astudio wedi fy ngalluogi i wella nifer o sgiliau hanfodol fel rheoli amser, cyfathrebu a threfnu sy’n hanfodol ym maes y gyfraith. Rwyf wedi mwynhau’r cyfle i ddysgu mewn amgylchedd ymarferol go iawn. Byddwn yn argymell dechrau prentisiaeth yn gryf i unrhyw unigolyn sydd â diddordeb mewn symud ymlaen â’i yrfa yn y gyfraith.’
Mae Wythnos Prentisiaethau yn tynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei wneud ar draws y gymuned brentisiaethau cyfan i hyrwyddo prentisiaethau a’r effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ledled Cymru.
Os oes gennych ddiddordeb yn ein rhaglen Brentisiaethau ac yr hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni.