Delyth Davies

Ymunodd Delyth â’r tîm Agri Advisor ym mis Mawrth 2021. Fel Cynorthwyydd Marchnata mae hi’n gyfrifol am y marchnata Digidol a Chorfforol yma yn Agri Advisor.

Mae Delyth hefyd yn cefnogi’r tîm gweinyddol ar adegau prysur yn y swyddfa ac mae hefyd wedi cwblhau ei NVQ Lefel 3 mewn Busnes a Gweinyddiaeth.

Mae Delyth yn byw ger Lanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, lle mae ei theulu yn rhedeg fferm defaid a bîff. Astudiodd am radd mewn Tecstilau Cyfoes o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd ac mae’n defnyddio ei sgiliau creadigol yn ei busnes dylunio a darlunio. Yn ei hamser hamdden mae Delyth yn mwynhau teithio, cerdded, padl fyrddio ac archwilio cefn gwlad boed hynny ar droed neu ar y dŵr. Mae Delyth yn rhugl yn y Gymraeg.

Delyth Davies

Cynorthwy-ydd Marchnata