Hannah Powell
Ymunodd Hannah â thîm Agri Advisor ym mis Mawrth 2025 ac mae’n Gyfreithiwr yn ein tîm Cleient Preifat ac mae wedi’i lleoli yn ein swyddfa yn y Trallwng.
Astudiodd Hannah y Gyfraith ym Mhrifysgol Lerpwl ac aeth ymlaen i gwblhau ei Cwrs Ymarfer Cyfreithiol ym Mhrifysgol y Gyfraith yng Nghaer. Cwblhaodd ei chontract hyfforddi gyda chwmni yng Nghanolbarth Cymru a chymhwysodd fel cyfreithiwr ym mis Ebrill 2024.
Yn ei hamser hamdden mae Hannah yn mwynhau rhedeg a chymdeithasu, mae’n byw ar fferm ddefaid a chig eidion yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru gyda’i phartner ac yn treulio llawer o’i hamser y tu allan i’r gwaith yn helpu ar y fferm.

Hannah Powell
Cyfreithwraig