Llio M Phillips

Mae Llio wedi’i lleoli yn ein swyddfa yng Nghastellnewydd Emlyn ac ymunodd ag Agri Advisor ym mis Ionawr 2020. Yn wreiddiol o Lanelwy, Sir Ddinbych, enillodd radd Anrhydedd LLB o Brifysgol Aberystwyth yn 1989 ac mae ganddi dros 30 o flynyddoedd o brofiad mewn gwaith datrys anghydfodau  a chynghori ar y gyfraith sifil, gan gynnwys anghytundebau yn ymwneud â thir ac eiddo, cytundebau a dyledion. Mae ganddi hefyd brofiad helaeth yn delio gyda materion yn ymwneud ag anghytundebau ariannol o ganlyniad i dor priodas a chydbreswylwyr yn ogystal â gwaith teulu a chyfraith plant ar ôl gweithio dros y blynyddoedd gyda chwmnïau yn Sir Benfro a Cheredigion. Mae ganddi hefyd brofiad o weithio fel cyfreithiwr mewnol gyda Llywodraeth Leol yn cynghori gwahanol adrannau gan gynnwys  yr adran drwyddedu a’r adran gwasanaethau cymdeithasol.

Mae Llio yn byw ar y fferm deuluol yn edrych dros aber yr afon Teifi gyda’i gŵr a ddau o feibion. Mae’n rhugl yn y Gymraeg. Yn ei hamser hamdden, mae Llio yn mwynhau treulio amser gyda’r teulu a theithio.

Llio M Phillips

Partner