Ffurflen Cais Sengl (SAF) 2021

  • Posted

Agorodd ffenestr ceisiadau SAF 2021 ar y 1af o Fawrth 2021 a gellid ei gwblhau ar RPW ar-lein. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich SAF yw canol nos ar y 17eg o Fai 2021, fodd bynnag dylech ond ddatgan yr holl dir sydd ar gael gennych chi erbyn y 15fed o Fai 2021.

Mae dyddiad cau’r dogfennau ategol ar gyfer cais BPS wedi’i ymestyn i’r 31ain o Ragfyr 2021, mae’r rhain yn cynnwys:

  • Tystiolaeth o Weithgaredd Amaethyddol,
  • Tystiolaeth o’r taliad Ffermwr Ifanc,
  • Tystiolaeth i gefnogi cais i’r Warchodfa Cenedl.

Fodd bynnag, mae’n werth nodi na fydd y cais BPS yn cael ei brosesu na thaliad, gan gynnwys y Rhandaliad Cyntaf, yn cael ei wneud tan i’r holl ddogfennau ategol angenrheidiol gael eu cyflwyno. Os yw’r dogfennau ategol yn angenrheidiol ond heb eu cyflwyno erbyn y 31ain o Ragfyr 2021, bydd eich cais BPS yn cael ei wrthod.

Ceir rhai newidiadau pellach i Gais BPS 2021, gan gynnwys:

  • Gofynion Gwyrddu – mae hwn wedi’i ddileu. Mae’r gyllideb Gwyrddu wedi’i symud i’r gyllideb Hawlio BPS ac mae’r gwerthoedd hawlio wedi cynyddu o ganlyniad i’r newid hyn. Bydd y newid mewn gwerthoedd hawlio yn cael eu gwneud ym mis Gorffennaf ac ar gael ar RPW ar-lein.
  • Gofynion Ffermwr Actif – rhaid i bob hawlydd BPS barhau i fodloni’r diffiniad o ffermwr. Mae’r gofyniad arall o ‘Ffermwr Actif’ i fusnesau sy’n gweithredu gweithgareddau arall, megis meysydd awyr neu weithiau dŵr wedi’i ddileu.
  • Ffermydd Trawsffiniol – nid yw’r holl dir sy’n cael ei ffermio yn y DU bellach yn cwympo o dan un cais BPS sengl. Rhaid i chi wneud cais SAF ar gyfer pob gwlad yn y DU lle’r ydych yn dal tir cymwysedig a Hawliadau BPS.
  • Rhandaliadau Cyntaf BPS 2021 – yn ddarostyngedig i gymhwysedd hawliad a chyflwyno’r holl ddogfennau ategol, bwriedir i Randaliad Cyntaf y BPS gael ei wneud o’r 15fed o Hydref 2021 o hyd at 70% o werth eich hawliad BPS terfynol.
  • Taliadau Balans BPS 2021 – bydd taliadau balans BPS 2021 yn cychwyn o’r 15fed o Ragfyr 2021.

Eto, eleni ceir cymorth ac arweiniad ychwanegol yn y ‘Llyfryn Rheolau Cais Sengl 2021’ a’r ‘Canllaw Sut i Gwblhau’r Ffurflen Gais Sengl 2021 Ar-lein’. Fodd bynnag, os hoffech gefnogaeth ac arweiniad wrth gwblhau a chyflwyno eich Ffurflen SAF, cysylltwch ag Ellie Watkins neu Katie Davies ar 01558 650381, ellie@agriadvisor.co.uk neu katie@agriadvisor.co.uk