Y Cynnig Cymraeg

  • Posted

Mae’n falch iawn gennym ni gyhoeddi ein bod wedi ein cymeradwyo gyda’r ‘Cynnig Cymraeg’ gan Gomisiynydd y Gymraeg. Dangosa’r marc safon hwn bod gennym ni fel cwmni bolisïau Cymraeg actif yr ydym ni’n dilyn yn ddyddiol, mae’n hysbysebu y gallwn ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg, a dangosa ein bod ni’n falch o’r gallu i ddarparu’r fath wasanaethau yn y Gymraeg.

Maen nhw’n ystyried y 5 ‘D’, sef:

  • ‘Delio’ – sut rydym ni’n delio gyda’n cleientiaid yn Gymraeg;
  • ‘Delwedd’ – ein delwedd Cymraeg;
  • ‘Digidol’ – sut rydym ni’n defnyddio’r Gymraeg ar blatfformau digidol;
  • ‘Digwyddiadau’ – yr amryw o ddigwyddiadau rydym ni’n cynnal a faint o gyfarfodydd ayyb rydym ni’n cynnal yn y Gymraeg; a
  • ‘Datblygu’ – datblygu sgiliau Cymraeg gyda’n gweithwyr.

Pan fyddwch chi’n cysylltu gyda ni, byddwn ni’n delio gyda’ch ymholiad ym mha bynnag iaith sy’n fwyaf cyfforddus i chi. Mae dros 75% o’n gweithwyr yn siarad Cymraeg – ffigwr rydym ni’n hynod falch ohono, sy’n ymestyn i bob lefel o’r busnes – o’r tîm gweinyddol, i’r cyfreithwyr, i fyny at y tîm rheoli. Mae ein gwefan a deunyddiau marchnata yn ddwyieithog a bydd pob gohebiaeth i chi yn eich iaith ddymunol. Dyma ddim ond rhai o’r ffyrdd yr ydym ni fel cwmni yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth iaith Gymraeg gorau y gallwn ni. Rydym ni’n falch iawn o allu defnyddio marc safon ‘y Cynnig Cymraeg’, pan welwch chi’r marc safon hwn, rydych chi’n gwybod y cewch chi wasanaeth o’r safon uchaf.

Dywed Manon Williams, Partner yn Agri Advisor:

“Rydym ni’n falch iawn o fod wedi’n gwobrwyo gyda march safon ‘y Cynnig Cymraeg’ sy’n cydnabod ein gallu i gynnig ein gwasanaethau yn y Gymraeg. Mae ein Polisi Iaith Gymraeg erioed wedi bod yn hynod bwysig i ni ers sefydlu Agri Advisor, ac rydym ni’n falch o gael cydnabyddiaeth am y gwasanaethau rydym ni wedi bod yn darparu ers 10 mlynedd. Mae’r mwyafrif o’n gweithwyr yn siaradwyr Cymraeg ac rydym ni’n falch o allu cynnig y gwasanaeth gorau posib trwy gyfrwng y Gymraeg.”