Cytundeb Hyfforddiant 2022

  • Posted

Croesewir ceisiadau yn awr ar gyfer ein rhaglen cyfreithwyr o dan hyfforddiant. Rydym ni’n chwilio am hyfforddai craff a brwdfrydig i ymuno â’n tîm ym mis Mehefin neu Fedi 2022.

Rydym ni yn Agri Advisor LLP yn dîm o arbenigwyr cyfraith amaethyddol a gwledig. O ganlyniad i’r ffordd rydym ni’n strwythuro ein cytundebau hyfforddiant, byddwch chi’n eistedd pedair sedd chwe mis yn ystod y cytundeb hyfforddiant dwy flynedd gan weithio mewn amryw o feysydd cyfreithiol gwledig ac amaethyddol. Mae’r rhain yn cynnwys Eiddo a Chynllunio, Cleient Preifat a Datrys Anghydfodau. Buaswn ni hefyd yn ystyried ymgymryd â’r cytundeb hyfforddiant ar sail rhan amser i gydredeg gyda hyfforddiant.

Byddwch yn derbyn cyfrifoldeb o gyfnod cynnar, i gaffael profiad go iawn ac ymarferol gyda goruchwyliaeth ac arweiniad wrth gyfreithwyr profiadol.

Rydym ni’n gwahodd ceisiadau wrth ymgeiswyr o bob cefndir, ond rydym ni’n gofyn eich bod chi:

  • Wedi cwblhau eich LPC, yn cwblhau’r LPC ar hyn o bryd yn rhan amser, neu’n chwilio i ymgymryd â’r SQE o fewn y 2 flynedd nesaf
  • Gofnod academaidd cryf gyda lleiafswm gradd o 2:1
  • Yn fasnachol ymwybodol a phragmatig
  • Yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd cydweithredol a’n meddiannu sgiliau cyfathrebu a phersonol da
  • Â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn cyfraith amaethyddol neu wledig

Byddwch chi’n gweithio mewn amgylchedd gyda thîm cyfeillgar a chefnogol lle bydd eich datblygiad proffesiynol yn cael ei chefnogi a’i gwerthfawrogi.

Er mwyn ymgeisio, anfonwch eich llythyr eglurhaol a CV at hr@agriadvisor.co.uk. Dyddiad cau’r ceisiadau yw’r 31ain o Fawrth.