Kay Lewis

 

Ymunodd Kay, sy’n ferch fferm, ag Agri Advisor ym Mehefin 2016. Cyn hynny buodd hi’n gweithio mewn AD i Dunbia, Llanybydder a Chymdeithas Tai Sir Benfro. Hefyd, wrth weithio i Tesco a Gwerthwyr Tai ac Arwerthwyr JJ Morris mae Kay wedi cael profiad o weithio mewn sefydliadau mawr a bach o fewn y sector breifat a chyhoeddus.

Mae Kay yn gyfrifol am holl faterion staffio gan gynnwys recriwtio a datblygu personél o fewn tîm Agri Advisor, gan sicrhau bod staff yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf er mwyn darparu lefel uchel o wasanaeth i’n cleientiaid yn gyson.

Mae prif dyletswyddau Kay yn cynnwys cysylltiadau â gweithwyr, cyfathrebu a strwythur y tîm, polisïau AD, sicrhau cydymffurfiad â’r gyfraith a rheoli perfformiad, a chynorthwyo gyda chynllunio olyniaeth er mwyn creu tîm cryf ar gyfer y dyfodol. Gyda thîm Agri Advisor yn ehangu mae Kay yn gyfrifol am gynnal systemau AD fel bod gweithwyr yn rhoi o’u gorau bob amser. Mae Kay yn rhugl yn y Gymraeg.

Kay Lewis

Rheolwr AD & Datblygu