Sophie Walker

Ymunodd Sophie ag Agri Advisor ym mis Mehefin 2023 fel Cymrawd ac aelod o’r tîm Datrys Anghydfodau.

Cymhwysodd Sophie yn 2013 ond mae wedi gweithio yn y proffesiwn cyfreithiol am dros 24 mlynedd mewn rolau ennill ffi a datblygu busnes. Ei maes arbenigol yw Ymgyfreitha Sifil ac mae’n delio â sbectrwm eang o faterion dadleuol i gynnwys anghydfodau sy’n ymwneud â thir ac eiddo, materion contract a dyled ac anghydfodau partneriaeth. Mae gan Sophie sgiliau datblygu busnes cryf ac mae’n mwynhau cwrdd ag ymgysylltu â chleientiaid a chysylltiadau newydd.

Mae Sophie yn Gymrawd o Sefydliad Siartredig Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEX) ac mae wedi bod yn aelod gweithgar o CILEX ers dechrau ei gyrfa yn y gyfraith. Chwaraeodd Sophie rôl allweddol mewn sefydlu cangen ranbarthol Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru o’r mudiad lle, dros gyfnod o 10 mlynedd, bu’n Ysgrifennydd y Grŵp a Thrysorydd  ymysg swyddi eraill cyn cymryd yr awenau fel Cadeirydd y Gangen.

Cafodd Sophie ei magu dros y ffin yn Swydd Amwythig ar y fferm deuluol yn magu moch. Symudodd Sophie i Gymru dros 10 mlynedd yn ôl ac mae’n byw yn Sir Drefaldwyn lle mae’n ffermio defaid ar y cyd â’i gŵr. Mae gan Sophie ddwy ferch ifanc sy’n mwynhau’r tymor wyna yn arbennig. Mae Sophie hefyd yn dysgu Cymraeg.

Sophie Walker

Gweithredydd Cyfreithiol Cyswllt