Rheolwr Cyllid

Rydym yn chwilio am Reolwr Ariannol profiadol, ymarferol i yrru perfformiad ariannol, cefnogi cynllunio strategol, a sicrhau twf masnachol parhaus y cwmni.

Fel aelod uwch o’r tîm arweinyddiaeth Gwasanaethau Busnes, bydd y Rheolwr Ariannol yn darparu goruchwyliaeth strategol ac arweinyddiaeth ymarferol ar draws pob swyddogaeth ariannol a gweithredol. Byddwch yn sicrhau cywirdeb ariannol y cwmni, cadw rheolaeth gadarn ac yn galluogi cydweithwyr i ddarparu gwasanaeth rhagorol i’n cleientiaid.

Mae’r rôl yn gofyn am arweinydd gweithredol, blaengar, sy’n hyrwyddo cywirdeb, atebolrwydd, a gwelliant parhaus ar draws y tîm a’r cwmni ehangach.

Teitl swydd: Rheolwr Cyllid

Yn adrodd i: Pennaeth Gwasanaethau Busnes

Rheolwr llinell i Cynorthwy-ydd Cyfrifon, Cynorthwy-ydd Gweithrediadau, Cydlynydd Perfformiad, Cynorthwy-ydd Rheoli Credyd ac unrhyw aelodau o’r tîm Cyllid.

Nodweddion allweddol:

  • Profiad mewn bancio ac/neu gyfrifeg, yn ddelfrydol gyda chymwysterau cyfrifeg.
  • Sylw manwl at fanylion, gyda dealltwriaeth gref o gyfriflyfrau chyfrifon swyddfa a chleient a llyfrau enwol.
  • Profiad amlwg mewn arwain a rheoli pobl yn effeithiol.

Dyletswyddau i gynnwys:

  • Sicrhau bod adnoddau a chefnogaeth ar gael ar draws y Cwmni i alluogi cydweithwyr i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gwsmeriaid ac ymwelwyr ar bob adeg, mewn amgylchiadau swyddfa dda, ddiogel a chroesawgar.
  • Sicrhau bod effeithlonrwydd busnes yn cael ei optimeiddio drwy adolygiad parhaus o’r gwasanaethau a ddefnyddir ar draws y cwmni, gan sicrhau bod bras-brynu’n cael ei optimeiddio lle bynnag y bo’n bosibl.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth ariannol â gofynion SRA ac HMRC.
  • Rheoli a sicrhau cydymffurfiaeth â KPIs perfformiad y cwmni a goruchwylio cydymffurfiaeth â KPIs perfformiad tîm.
  • Sicrhau bod diogelwch corfforol a thechnolegol ar draws y busnes y gorau posibl.
  • Cynnal cyfarfodydd adolygu misol gydag aelodau’r Timoedd a’r Arweinwyr Tîm i asesu cynnydd.
  • Sicrhau bod Cynllun Gwaith y Tîm Ariannol yn cael ei weithredu’n gyson, gydag adolygiadau cynnydd misol mewn cyfarfodydd Bwrdd Rheoli.
  • Dod o hyd i systemau TG gost-effeithiol a’u defnyddio’n effeithiol ar draws y cwmni i’r capasiti uchaf.
  • Bod pob cais gan gydweithwyr am adnoddau yn cael ei drin yn brydlon.
  • Cynnal Asesiadau Blynyddol gydag aelodau’r Tîm – gyda chefnogaeth yr adran Adnoddau Dynol.
  • Sicrhau bod adnoddau ar gael yn fewnol i roi gwasanaeth dwyieithog i gwsmeriaid ac argyfer cyfathrebu allanol.
  • Adeiladu a chynnal cysylltiadau gyda sefydliadau i alluogi aelodaeth o baneli /mynediad i waith mewn meysydd arbenigol.
  • Cyfrifoldeb effeithiol am benderfyniadau dydd i ddydd mewn perthynas â’r Adrannau Cyfrifon a Gweithrediadau ar draws y busnes.
  • Bod yn arweinydd cadarnhaol i eraill o fewn y busnes a darparu cefnogaeth ar gyfer cadw a recriwtio staff.
  • Bod yn arloesol ac yn flaengar i sicrhau bod y busnes yn parhau i groesawu newid.

Cyfrifoldebau’r Rheolwr Cyllid:

  • Cadarnhau trafodion banc
  • Sefydlu trafodion banc i ddarparu gwarant lle bo’n angenrheidiol.
  • Delio â chwestiynau mewn perthynas â phostiadau cyfrifon a datrys problemau.
  • Yn delio â chwestiynau dydd-i-ddydd gan aelodau’r tîm ar faterion ariannol.
  • Yn cyflwyno Adroddiadau Ariannol i’r Bwrdd Rheoli bob mis ac i’r EB bob chwarter.
  • Adolygu cysoniadau misol a ddarperir gan arianwyr a sicrhau bod unrhyw bryderon yn cael eu datrys.
  • Paratoi cyllideb ariannol flynyddol ar gyfer cymeradwyaeth EB.
  • Rheoli cyllidebau ariannol cyffredinol yn ystod y flwyddyn gan gynnwys rheoli llif arian
  • Adolygu ystadegau ariannol a ddarperir gan ein pecyn cyfrifeg yn fisol, monitro cofnodion enwol a gwneud argymhellion i’r EB yn ymwneud ag Elw a Cholled a’r Fantolen ac i’r Bwrdd Gweithredol yn ymwneud â pherfformiad ariannol y timau.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â PAYE, TAW a chydweithio â HMRC lle bo angen.
  • Cyfrifoldeb am Reoli Credyd ar draws y cwmni.
  • Cydweithio â’r banc ac yn brif gyswllt iddo.
  • Sicrhau bod Credydwyr yn cael eu talu’n brydlon.

Swyddog Cydymffurfio ar gyfer Cyfrifoldebau Ariannol a Gweinyddiaeth (COFA):

  • Sicrhau fod y cwmni a’i reolwyr a gweithwyr yn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau a osodir arnynt o dan Reolau Cyfrifon Cyfreithwyr;
  • Sicrhau bod adroddiadau’n cael eu danfon i’r SRA yn brydlon.

Yn ogystal â’ch prif ddyletswyddau, efallai y bydd angen i chi gyflawni dyletswyddau ychwanegol neu wahanol, sydd, o bryd i’w gilydd, yn cael eu hystyried yn angenrheidiol, ac yn gyson â’ch rôl yn y cwmni ac i gefnogi aelodau eraill o’r Tîm Gwasanaethau Busnes.

I wneud cais am y swydd uchod, anfonwch CV a Llythyr Eglurhaol i hr@agriadvisor.co.uk.

Y dyddiad cau yw’r 17eg o Ebrill 2026 am 12 y prynhawn.


    Close


    Llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda a wnewn ni ymateb cyn gynted â phosib